Ennyn diddordeb disgyblion trwy gyfleoedd dysgu hynod ysgogol
Mae athrawon yn cydweithio’n effeithiol i nodi themâu diddorol a chynllunio ystod eang o weithgareddau pwrpasol sy’n herio, yn ennyn diddordeb ac yn cyffroi disgyblion. Mae staff yn gwneud ymdrech sylweddol i baratoi adnoddau o ansawdd uchel ac yn darparu cyfleoedd ystyrlon i ddisgyblion ddylanwadu ar gyfeiriad eu dysgu a datblygu ymdeimlad cryf o berchnogaeth o’u gwaith. Mae hyn yn helpu disgyblion i ddatblygu agweddau cadarnhaol iawn at ddysgu ac i ymgysylltu’n frwdfrydig â’r profiadau a ddarperir.