Darpariaeth i wella dealltwriaeth disgyblion o’r Gymraeg
Mae’r ysgol wedi gwneud cynnydd nodedig o ran hyrwyddo’r Gymraeg ar draws ei darpariaeth. Rhoddwyd pwyslais ar ymgorffori’r Gymraeg trwy arddangosfeydd dwyieithog, cyfathrebu â rhieni a defnyddio Cymraeg bob dydd yn yr ystafell ddosbarth. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd ystyrlon i ddisgyblion ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau dilys ac yn hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith fyw. Mae partneriaethau cryf â sefydliadau allanol, fel yr Urdd a Menter Môn, yn cyfoethogi profiadau disgyblion ymhellach. Er enghraifft, daeth Anni Llŷn, yr awdur a’r bardd adnabyddus, i’r ysgol i gynnal gweithdy gyda disgyblion Blwyddyn 7 i ysgrifennu nofel. Mae’r ‘Parêd Dydd Gŵyl Dewi’ blynyddol, a gynhelir mewn cydweithrediad ag ysgolion cynradd sy’n bwydo’r ysgol, yn parhau i dyfu o ran amlygrwydd ac yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi mewn ffordd fywiog.