Darllen trwy ddull cyfathrebu cyflawn
Yn Ysgol Tir Morfa, mae darllen yn elfen ganolog o ddull cyfathrebu cyflawn yr ysgol ac yn cyfrannu’n gryf at gyfathrebu, annibyniaeth a lles disgyblion. Mae gan arweinwyr a staff ddealltwriaeth glir a chynhwysol ar y cyd o ddarllen sy’n ymestyn y tu hwnt i destun printiedig i gynnwys symbolau, arwyddo, gwrthrychau cyfeirio, ystumiau ac eiconau digidol. Mae’r ddealltwriaeth gyffredin hon yn sail i arfer gyson ac effeithiol ar draws yr ysgol. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer darllen cynnar yn gryfder sylweddol. Mae staff yn defnyddio dulliau gweledol, symbolaidd ac wedi’u seilio ar wrthrychau sydd wedi’u hen sefydlu, sy’n galluogi disgyblion sydd ar y camau cynharaf yn eu datblygiad, gan gynnwys y rhai ag anghenion cyfathrebu cymhleth, i ymgysylltu’n ystyrlon â thestunau a symbolau. Mae addysgu darllen yn systematig, wedi’i strwythuro’n ofalus ac wedi’i deilwra i anghenion unigol disgyblion. Mae defnydd cyson o wybodaeth asesu, a rennir yn effeithiol ymhlith staff, yn llywio’r addysgu er mwyn sicrhau her a chymorth priodol. Mae arweinwyr yn sicrhau parhad yn y ddarpariaeth, gan gynnwys pan fydd disgyblion yn aros am fewnbwn arbenigol. Lle bo’n briodol, mae disgyblion yn datblygu ymwybyddiaeth ffonolegol, medrau datgodio a dealltwriaeth gynnar trwy sesiynau dyddiol sydd â chyflymder addas a threfn gyson. Mae staff yn creu cysylltiadau pwrpasol rhwng darllen, ysgrifennu a chyd-destunau bywyd go iawn, gan alluogi disgyblion i gymhwyso eu medrau’n ystyrlon. Caiff darllen ei ymgorffori’n effeithiol ar draws y cwricwlwm trwy weithgareddau ymarferol a difyr sy’n meithrin mwynhad, hyder ac annibyniaeth. Mae arweinyddiaeth darllen yn gryf ac yn canolbwyntio’n strategol ar wella. Mae arweinwyr yn monitro effaith yn drylwyr ac yn rhoi cyfeiriad clir ar gyfer gwella. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd cryf iawn o’u mannau cychwyn, gydag ychydig yn gwneud cynnydd cyflymach, ac mae disgyblion yn defnyddio darllen yn gynyddol i gefnogi cyfathrebu bob dydd, cyfranogiad ac annibyniaeth.