Ysgol Maenofferen - Estyn
Cynradd - Cyngor Gwynedd

Ysgol Maenofferen

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

Ciplun

Cydweithio effeithiol rhwng yr ysgol a’r swyddog ymgysylltu teuluoedd

Mae’r bartneriaeth sy’n bodoli rhwng yr ysgol a'r swyddog ymgysylltu teuluoedd yn cael effaith hynod gadarnhaol ar bresenoldeb unigolion, ar les disgyblion a’u teuluoedd, a’u hyder fel dysgwyr gydol oes. Mae rhieni’n cadarnhau bod y bartneriaeth hon yn hynod werthfawr ac sydd wedi trawsnewid agwedd eu plant at fynychu’r ysgol yn rheolaidd. Mae aelodau o gymuned leol yr ysgol hefyd yn canmol y bartneriaeth gan eu bod yn elwa o waith disgyblion, er enghraifft wrth dysgu Cymraeg i’r trigolion yn y gymuned ac mewn gweithdai yn yr ysgol fel rhan o’r bartneriaeth.

Manylion

Cyfeiriad

Ysgol Maenofferen Y Sgwar
Blaenau Ffestiniog
Gwynedd
LL41 3UL