Ysgol Gynradd Bynea - Estyn
Cynradd - Cyngor Sir Gâr

Ysgol Gynradd Bynea

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

1 of 2

Cipluniau

Datblygu chwilfrydedd a chwarae dychmygus yn y blynyddoedd cynnar

Mae’r ardaloedd dysgu dan do ac awyr agored yn y blynyddoedd cynnar wedi’u cynllunio’n ofalus ac yn darparu amgylchedd ysgogol i ddisgyblion ddysgu. Maent yn ennyn chwilfrydedd disgyblion ac yn cynnal eu diddordeb trwy gynnig cyfleoedd i chwarae ac archwilio’n ddychmygus ac yn bwrpasol, sy’n galluogi disgyblion i ymarfer a chadarnhau medrau allweddol, gan gynnwys cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd, mewn cyd-destunau dilys. Mae disgyblion yn archwilio’n hyderus, yn gwneud dewisiadau annibynnol ac yn cydweithio’n dda â’u cyfoedion. Mae hyn yn meithrin eu creadigrwydd, eu gwydnwch a’u datblygiad cymdeithasol. Mae’r cydbwysedd effeithiol rhwng gweithgareddau dan arweiniad oedolion a phrofiadau a gychwynnir gan blant yn sicrhau bod disgyblion yn cael cymorth a her briodol. O ganlyniad, maent yn gwneud cynnydd cryf ac yn datblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu.

Manylion

Cyfeiriad

Saron Road
Bynea
Llanelli
Carmarthenshire
SA14 9LT