Ffocws ar ddatblygu medrau darllen disgyblion
Mae gan arweinwyr a staff ymroddiad diwyro ac angerdd dros ddatblygu medrau darllen disgyblion. Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion iau yn cymryd rhan yn frwdfrydig mewn gweithgareddau dysgu sy’n eu helpu i ddatblygu medrau darllen cynnar. Ar draws yr ysgol, mae bron pob disgybl yn mwynhau ystod eang o destunau, gan gynnwys storïau a barddoniaeth. Mae cynorthwywyr addysgu medrus yn cyflwyno ystod o raglenni sy’n cefnogi grwpiau o ddisgyblion yn effeithiol, fel y rhai sy’n newydd i’r Saesneg neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, i ddatblygu eu medrau darllen cynnar yn gyflym. Wrth iddynt symud drwy’r ysgol, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dod yn ddarllenwyr rhugl a brwdfrydig.