Ysgol Derwen - Estyn
Cynradd - Cyngor Sir y Fflint

Ysgol Derwen

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

1 of 2

Cipluniau

Darpariaeth effeithiol ar gyfer mathemateg a rhifedd

Mae addysgu mathemateg a rhifedd yn effeithiol ar draws yr ysgol ac mae disgyblion yn gwneud cynnydd cryf yn y maes hwn. Mae staff yn darparu ystod fuddiol o brofiadau sy’n gwella dealltwriaeth gynnar y disgyblion ieuengaf o gysyniadau mathemategol, fel siâp a mesur, yn llwyddiannus trwy eu chwarae. Mae bron bob un o’r disgyblion ieuengaf yn datblygu dealltwriaeth gadarn o rif trwy ystod o brofiadau ymarferol diddorol. Mae staff yn cynorthwyo disgyblion o bob oed i gymhwyso eu medrau rhifedd yn hyderus mewn amrywiaeth o ymchwiliadau pwrpasol dan arweiniad disgyblion. Mae disgyblion hŷn yn defnyddio eu medrau rhifedd yn arbennig o dda wrth iddynt archwilio ystod o broblemau cynyddol gymhleth.

Manylion

Cyfeiriad

Main Road
Higher Kinnerton
Flintshire
CH4 9AJ