Gweithredu blaenoriaethau gwella mewn ffordd hylaw
Mae arweinwyr yn nodi meysydd i’w gwella yn gywir ac yn ystyried gwahanol ddulliau o wella agweddau ar y ddarpariaeth, gan ystyried yr effaith debygol ar fedrau disgyblion. Maent yn nodi camau gweithredu clir ac yn eu cyfleu’n glir i’r holl staff, gan flaenoriaethu’n ofalus ac ystyried y materion mwyaf brys. Yn ogystal, maent yn ystyried gallu’r gweithlu i wneud newidiadau amserol ac yn sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar agweddau penodol mewn ffordd hylaw. Maent yn trefnu hyfforddiant a chymorth addas lle bo’n briodol ac yn rhoi amser i arferion newydd ymsefydlu cyn symud ymlaen i fynd i’r afael â blaenoriaethau eraill. O ganlyniad, mae staff yn gweithio’n effeithiol gydag ethos tîm cryf ac yn croesawu dulliau newydd gyda brwdfrydedd a gwydnwch, sy’n cael effaith gadarnhaol ar brofiadau disgyblion.