Arweinyddiaeth strategol o ansawdd uchel sy’n cael effaith gadarnhaol ar addysgu a dysgu
Mae gan yr ysgol hanes cryf o sicrhau gwelliannau ac mae ganddi ddiwylliant llwyddiannus o arweinyddiaeth ddosranedig sy’n cael effaith gadarnhaol. Mae uwch arweinwyr yn ymddiried yn y staff ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniad, eu medrau a’u profiad. Maent yn helpu staff i ddatblygu fel arweinwyr ac yn eu grymuso i arwain agweddau allweddol ar waith yr ysgol yn llwyddiannus. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod morâl yn dda ar draws yr ysgol a bod ymdeimlad cryf o waith tîm a chydweithio, sy’n cael effaith gadarnhaol ar addysgu a dysgu. Mae arweinwyr yn sicrhau bod pob aelod o staff yn cael dysgu proffesiynol amserol a pherthnasol sy’n diwallu anghenion yr ysgol gyfan ac anghenion unigol. Yn ddiweddar, gwelwyd gwelliannau nodedig yn narpariaeth dysgu sylfaen a medrau ysgrifennu disgyblion.