Ysgol Bryn Garth - Estyn
Cynradd - Cyngor Sir y Fflint

Ysgol Bryn Garth

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

Ciplun

Ysgol sydd wrth galon y gymuned

Mae’r pennaeth yn rhoi pwys mawr ar sicrhau bod staff yn cyfathrebu ac yn gweithio gyda rhieni a gofalwyr fel partneriaid yn addysg eu plant. Mae arweinwyr wedi sefydlu rhaglen o weithgareddau y gall disgyblion a rhieni eu mwynhau gyda’i gilydd, er enghraifft diwrnodau ‘Welly in the Woods’ a gweithdai sy’n defnyddio teganau adeiladu. Mae arweinwyr wedi llwyddo i sicrhau cyllid grant gwerthfawr i wella amgylchedd yr ysgol a sicrhau ei bod yn lle croesawgar. Mae hyn yn helpu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol yng nghymuned yr ysgol. Mae bron bob rhiant yn teimlo’n gyfforddus yn cymryd rhan mewn profiadau cymdeithasol a dysgu.

Manylion

Cyfeiriad

Ysgol Bryn Garth
Maes Emlyn
Pen-y-ffordd
Holywell
Flintshire
CH8 9JA