Dull ystyriol o ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (DA)
Mae Ysgol Bryn Coch yn croesawu dyfodiad deallusrwydd artiffisial (DA) mewn ffordd bwrpasol ac ystyriol. Gan roi anghenion unigol disgyblion wrth wraidd eu cynllunio, mae athrawon yn defnyddio DA i addasu testunau fel eu bod yn cyd-fynd yn well â diddordebau ac anghenion darllenwyr anfoddog. Mae hyn yn cynyddu ymgysylltiad y disgyblion hyn ac yn gwella eu cynnydd. Mae disgyblion yn dechrau defnyddio DA eu hunain i gyflwyno eu dysgu mewn ffyrdd creadigol. Maent yn mireinio’r cyfarwyddiadau a roddant i DA wrth iddynt fynd yn eu blaenau, gan feddwl yn ofalus am yr iaith a’r anogwyr a ddefnyddiant. Mae arweinwyr a staff hefyd yn arfer gofal priodol. Mae eu dull o addysgu diogelwch ar-lein wedi esblygu yn unol â hyn ac maent yn helpu disgyblion yn llwyddiannus i ddatblygu dealltwriaeth gref o’r peryglon posibl sy’n gysylltiedig â defnyddio DA.