Ysgol Bryn Clwyd - Estyn
Cynradd - Cyngor Sir Ddinbych

Ysgol Bryn Clwyd

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

1 of 2

Cipluniau

Sefydlu diwylliant meithringar sy’n hyrwyddo ymddygiadau dysgu cadarnhaol

Mae staff yn cydweithio’n dda ar draws yr ysgol. Maent yn gweithio’n agos gyda disgyblion a rhieni i werthuso’r ddarpariaeth ar gyfer lles disgyblion ac, o ganlyniad, mae gan staff ddealltwriaeth gref o anghenion emosiynol a lles disgyblion. Mae arweinwyr yn sicrhau bod pob aelod o staff yn manteisio ar ystod eang o weithgareddau dysgu proffesiynol effeithiol sy’n datblygu eu gallu i gynorthwyo disgyblion a’u cydweithwyr. Mae staff yn trefnu rhaglenni cymorth hynod effeithiol sy’n cynnwys sesiynau unigol a gweithgareddau grŵp pwrpasol sy’n datblygu gallu disgyblion i fyfyrio ar eu meddyliau a’u teimladau. Mae’r amgylchedd dysgu dan do wedi’i ailgynllunio’n fedrus i ddarparu mannau diogel lle mae lliwiau tawelu, adnoddau cyffyrddol a goleuadau tawel yn creu awyrgylch sy’n cefnogi lles disgyblion yn llwyddiannus. Mae disgyblion yn teimlo bod staff yn gofalu amdanynt ac maent yn barod i ddysgu a ffynnu.

Manylion

Cyfeiriad

Ysgol Bryn Clwyd
Llandyrnog
Denbighshire
LL16 4HG