Arweinyddiaeth ddosbarthedig a lles staff
Mae arweinwyr wedi gweithio’n effeithiol gyda’r tîm staff i ddatblygu gallu arwain ar draws yr ysgol, gan sicrhau gwelliant yn lles staff hefyd. Mae arweinwyr wedi defnyddio ystod o gyfleoedd dysgu proffesiynol pwrpasol, yn ogystal â sesiynau hyfforddi a mentora wedi’u targedu, i gryfhau gallu arwain. O ganlyniad, maent wedi datblygu tîm o arweinwyr canol brwdfrydig sy’n helpu i werthuso a gwella arferion yn yr ysgol. Yn ogystal, mae arweinwyr wedi cynllunio gweithgareddau a darpariaeth i sicrhau lles y tîm staff. Maent wedi datblygu trefniadau mewnol ac allanol i gefnogi lles staff, gan gynnwys mynediad at wasanaethau fel ffisiotherapi, cwnsela a gofal iechyd. Mae gweithgareddau buddiol eraill yn cynnwys ymweliadau gan ddarparwyr gwasanaethau lles, fel aromatherapi. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o staff yn teimlo eu bod yn cael cymorth da gan arweinwyr a bod arweinwyr yn ystyried eu lles a’u llwyth gwaith.