Ysgol Bro Elwern - Estyn
Cynradd - Cyngor Sir Ddinbych

Ysgol Bro Elwern

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

1 of 2

Cipluniau

Meithrin ymdeimlad cryf o gymuned drwy bartneriaethau effeithiol

Mae’r ysgol wrth galon ei chymuned. Mae arweinwyr a staff yn creu a chynnal partneriaethau gwerthfawr sy’n cyfoethogi lles a phrofiadau dysgu disgyblion yn grefftus. Gwnânt ddefnydd cynhwysfawr o gyfraniadau ymwelwyr ac ymweliadau o fewn eu milltir sgwâr i ehangu profiadau’r disgyblion. Er enghraifft, mae aelodau o’r gymuned yn cefnogi’r disgyblion hynaf i ddatblygu medrau cymorth cyntaf gwerthfawr. Mae disgyblion hefyd yn cyfrannu’n gyson at fywyd y gymuned trwy berfformio mewn digwyddiadau lleol a dathliadau arbennig, fel sesiynau ‘Cawl a Chân’. Yn ogystal, mae disgyblion yn ymweld â chartref preswyl lleol yn rheolaidd i ddarllen, perfformio a chwarae gemau gyda’r preswylwyr hŷn. Mae’r profiadau hyn yn datblygu medrau cymdeithasol disgyblion yn fwriadus, yn meithrin empathi a pharch tuag at eraill yn effeithiol ac yn cryfhau’r ymdeimlad o berthyn a balchder i’w bro yn hynod lwyddiannus. Mae’r gymdeithas rhieni ac athrawon yn hynod weithgar ac yn cyfrannu’n gyson at gyfoethogi’r ddarpariaeth a’r cyfleoedd a gynigir i ddisgyblion.

Manylion

Cyfeiriad

Gwyddelwern
Corwen
LL21 9DF