Ysgol Bro Cinmeirch - Estyn
Cynradd - Cyngor Sir Ddinbych

Ysgol Bro Cinmeirch

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

Ciplun

Ciplun: Hybu lles y gymuned ysgol

Mae lles disgyblion a’r staff yn ganolog i weledigaeth yr ysgol. Mae’r disgyblion sy’n rhan o’r Cyngor Lleisiau Lles yn goruchwylio’r dulliau gwella lles, ac wedi sefydlu sawl mesur cymorth gan gynnwys blwch pryderon, cornel clyd, mainc codi calon, a system ffrindiau ffeind i feithrin cysylltiadau ymhlith y disgyblion. Yn ogystal, mae’r ysgol yn blaenoriaethu llesiant staff trwy ‘nodyn neis’, rhennir y nodiadau yn wythnosol gan aelodau’r Lleisiau Lles. Mae’r ysgol hefyd yn cynnal digwyddiadau lles cymunedol, megis diwrnod ‘Gwener Gwenu’, sy’n darparu cyfleoedd ar gyfer cydweithio â busnesau lleol. O ganlyniad, mae bron pob disgybl yn teimlo’n hapus yn yr ysgol.

Manylion

Cyfeiriad

Llanrhaedr Y.C.
Dinbych
LL16 4NL