Ynysowen Community Primary School - Estyn
Cynradd - Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Ynysowen Community Primary School

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

1 of 2

Cipluniau

Dull strategol ysgol gyfan o ddatblygu darllen

Nododd staff yr angen i fireinio eu dulliau o addysgu darllen er mwyn gwella medrau darllen uwch disgyblion a meithrin cariad at ddarllen er pleser. Gwnaeth athrawon wella ansawdd y gweithgareddau darllen a gynigir i ddisgyblion bob dydd er mwyn eu gwneud yn bwrpasol ac yn bleserus. Ochr yn ochr â hyn, ymwelodd disgyblion sy’n aelodau o’r grŵp llysgenhadon darllen â phob ystafell ddosbarth i ystyried y ddarpariaeth ar gyfer darllen. O ganlyniad i’w hadborth, gwnaeth athrawon ardaloedd darllen yn fwy croesawgar a chyfforddus, a darparu ystod fwy perthnasol a chyffrous o ddeunyddiau darllen. Mae athrawon yn adrodd bod disgyblion yn defnyddio’r ardaloedd darllen yn amlach, bod eu diddordeb mewn darllen er pleser wedi cynyddu a’u bod yn dangos mwy o frwdfrydedd dros ddarllen dan arweiniad ac amser stori yn y dosbarth.

Manylion

Cyfeiriad

Aberfan Road
Aberfan
Merthyr Tydfil
CF48 4QQ