Cymhwyso medrau llythrennedd a rhifedd ar draws y cwricwlwm
Mae athrawon wedi datblygu cwricwlwm ysgogol, creadigol a pherthnasol sy’n ystyried cyd-destun yr ysgol, yr ardal leol a’r byd ehangach yn gelfydd. Maent yn datblygu medrau llythrennedd a rhifedd y disgyblion yn ofalus, drwy eu plethu’n fedrus ar draws bob agwedd o’r cwricwlwm. O ganlyniad, mae’r disgyblion yn cymhwyso eu medrau’n hollol naturiol ac annibynnol yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Maent yn ymgysylltu’n dda iawn yn eu dysgu ac mae’r cynnwys cyfredol a chyffrous yn ennyn eu diddordeb. Mae cyfleoedd buddiol i ddisgyblion ddylanwadu ar eu dysgu ac mae’r athrawon yn defnyddio syniadau disgyblion wrth gynllunio gwaith y tymor yn rheolaidd.