Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle'r Ynn - Estyn
Cynradd - Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle’r Ynn

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

1 of 2

Cipluniau

Partneriaeth gadarn â theuluoedd a’r gymuned i gefnogi lles a dysgu disgyblion

Mae’r ysgol wrth galon ei chymuned ac yn manteisio’n effeithiol ar yr ardal leol i gyfoethogi dysgu, lles a datblygiad personol disgyblion. Mae disgyblion y dosbarth derbyn yn ymweld â’r gamlas leol i gyflwyno straeon maent wedi’u hysgrifennu am y ‘Tri Bili Bwch Gafr’, tra bod disgyblion Blwyddyn 5 yn cryfhau eu dealltwriaeth o newidiadau dros amser yn yr ardal leol yn bwrpasol trwy drafod â thrigolion lleol. Mae’r profiadau buddiol hyn yn dwysau eu hymwybyddiaeth o’r gymuned a’u rôl ynddi yn fwriadus. Mae arweinwyr yn meithrin partneriaethau cryf â theuluoedd trwy gynnig cyfleoedd gwerthfawr iddynt gefnogi addysg eu plant. Mae mentrau gwerthfawr fel ‘Y Clwb Teulu’ yn cynnig gweithgareddau creadigol, digidol a lles buddiol i rieni a phlant. Mae arweinwyr a staff yn annog disgyblion i gyfrannu’n gydwybodol at eu cymuned. Mae disgyblion Blwyddyn 6 yn ymweld â chartref gofal lleol yn rheolaidd fel rhan o’r cysyniad ‘Cariad yn ein Cymuned’, ac mae disgyblion yn cymryd rhan yn weithgar yn ardd gymunedol ‘Tyfu yn y Tyle’ yr ysgol, gan gynaeafu llysiau a’u defnyddio i baratoi bwyd ar gyfer eu teuluoedd. Mae’r mentrau hyn yn cryfhau’r cysylltiad rhwng yr ysgol a’r gymuned yn hynod effeithiol.

Manylion

Cyfeiriad

Llansawel Crescent
Briton Ferry
Castell Nedd
SA11 2UN