Datblygu medrau ac annibyniaeth y disgyblion ieuengaf.
Mae darpariaeth yr ysgol ar gyfer datblygu medrau ac annibyniaeth y disgyblion ieuengaf yn gryfder. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwneud cynnydd sylweddol mewn cyfnod byr, yn enwedig y rhai sy’n dechrau yn yr ysgol ar lefel is na’r disgwyl. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn datblygu’r medrau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i ffynnu wrth iddynt symud drwy’r ysgol. Mae staff yn darparu amgylchedd croesawgar sy’n ennyn diddordeb disgyblion ac yn datblygu eu hannibyniaeth yn dda. Caiff disgyblion eu hannog i arwain eu dysgu eu hunain ac maent yn mwynhau dewis yr hyn yr hoffent ei wneud. Mae staff yn darparu llawer o brofiadau dysgu buddiol sy’n galluogi disgyblion i ddatblygu eu medrau llythrennedd, rhifedd a chorfforol yn llwyddiannus trwy chwarae. Mae’r defnydd pwrpasol o’r ardaloedd awyr agored yn darparu llawer o gyfleoedd dilys i ddisgyblion archwilio, dewis deunyddiau, datrys problemau a chydweithio. Er enghraifft, mae disgyblion yn defnyddio deunyddiau naturiol y maent yn dod o hyd iddynt yn yr ysgol goedwig i adeiladu cuddfan. Maent yn cydweithio i ddewis a chludo canghennau i ardal goediog, yn disgrifio’r hyn y maent yn ei wneud ac yn gwrando’n ofalus ar ei gilydd. Mae ychydig o ddisgyblion yn defnyddio termau mathemategol i esbonio a yw’r canghennau’n rhy hir neu’n rhy fyr ac a ydynt yn rhy drwm i’w cario.