Cefnogi lles a phresenoldeb disgyblion
Mae’r ysgol yn hynod effeithiol wrth gefnogi disgyblion i ddatblygu gwerthoedd, perthnasoedd cadarnhaol a hunanymwybyddiaeth. Er enghraifft, mae sesiynau lles dyddiol yn sicrhau bod disgyblion yn dawel ac yn barod i ddysgu. Mae pob athro yn cynnal sesiynau gwirio lles dyddiol effeithiol gyda disgyblion, ac mae cynorthwywyr addysgu medrus yn cynnig cymorth wedi’i deilwra i ddisgyblion sy’n wynebu heriau ychwanegol. Mae’r gwaith hwn yn helpu disgyblion i deimlo’n gyfforddus wrth ddod i’r ysgol ac yn cael effaith gadarnhaol ar eu presenoldeb.