Diwylliant cryf o ddysgu proffesiynol a datblygu arweinyddiaeth
Mae dysgu proffesiynol yn cyd-fynd yn agos â blaenoriaethau’r ysgol ac yn cyfrannu’n dda at wella addysgu a dysgu. Mae arweinwyr yn creu diwylliant cadarnhaol lle mae staff yn myfyrio’n onest ar eu harfer, yn cydweithio’n bwrpasol ac yn datblygu eu medrau yn hyderus. Mae ystod eang o gyfleoedd dysgu proffesiynol gwerthfawr yn cryfhau’r gallu i arwain ar bob lefel, yn cefnogi cynllunio ar gyfer olyniaeth yn effeithiol ac yn cynyddu hyder staff wrth ddarparu darpariaeth wedi’i thargedu. Mae ethos cadarnhaol #TeamTon yr ysgol yn treiddio trwy ei gwaith ac yn adlewyrchu ymrwymiad cryf ar y cyd i ddysgu gydol oes ymhlith staff a disgyblion fel ei gilydd.