Meithrin dull graddedig o ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer dysgu
Mae gan arweinwyr ddealltwriaeth gadarn o anghenion amrywiol disgyblion. Maent yn nodi anghenion disgyblion yn effeithiol ac yn darparu lefelau graddedig o gymorth yn unol ag anghenion penodol, gan ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar y disgybl. Maent yn cydlynu ymyriadau buddiol ar gyfer datblygiad ffonolegol, medrau cyfathrebu a datblygiad cymdeithasol ac emosiynol. Mae arweinwyr yn teilwra’r ddarpariaeth i sicrhau bod disgyblion yn cael y lefel briodol o gymorth i’w helpu i fanteisio ar gyfleoedd dysgu. Maent yn olrhain cynnydd gan ddefnyddio strategaethau hynod effeithiol ochr yn ochr â system olrhain gynhwysfawr. Mae arweinwyr yn cefnogi cydweithwyr i wella eu harfer trwy gyfleoedd dysgu proffesiynol o ansawdd uchel. Mae’r ysgol yn rhannu ei harfer dda ag ysgolion eraill ar ran yr awdurdod lleol.