Disgyblion yn cymryd perchnogaeth o’u dysgu eu hunain
Mae llais y disgybl yn nodwedd gadarnhaol o’r ysgol. Caiff disgyblion hŷn gyfleoedd da i ymgymryd â rolau arwain a gwneud cyfraniadau gwerthfawr a dilys at fywyd yr ysgol. Caiff y medr hwn ei ddatblygu ymhellach wrth i ddisgyblion ddefnyddio eu medrau arwain i gymryd cyfrifoldeb a pherchnogaeth o’u dysgu eu hunain trwy gydweithio i ymchwilio i ystod o bynciau. Maent yn cynllunio eu dysgu’n effeithiol, sy’n arwain at ddisgyblion yn cyflwyno’n hyderus ac yn herio eu cyfoedion trwy holi effeithiol. O ganlyniad, mae bron pob un o’r disgyblion hŷn yn frwdfrydig ac yn ymgysylltu â’u dysgu.