Hyrwyddo diwylliant gwrth-hiliol
Mae’r ysgol yn arbennig o effeithiol wrth greu diwylliant sy’n gwrthwynebu hiliaeth yn gadarn. Mae arweinwyr wedi cynnal ymchwil werthfawr ac effeithiol, sydd wedi eu helpu i ddatblygu a hyrwyddo diwylliant sydd wedi symud y tu hwnt i beidio â bod yn hiliol i fod yn weithredol wrth-hiliol. Mae dysgu proffesiynol gwerthfawr wedi helpu staff i ddod yn fwy gwybodus. O ganlyniad, maent yn teilwra’r cwricwlwm i sicrhau eu bod yn herio stereoteipiau hiliol, a bod disgyblion yn dysgu am fodelau rôl cadarnhaol o’r mwyafrif byd-eang. Mae staff yn annog disgyblion i fynegi eu treftadaeth ddiwylliannol a datblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth a pherthyn.