Cynllunio i gynnwys pob disgybl o ystod amrywiol o gefndiroedd yn llwyddiannus
Mae’r ysgol yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i ddisgyblion ddatblygu eu dealltwriaeth o amrywiaeth. Mae athrawon yn manteisio ar yr ystod eang o brofiadau disgyblion i gynllunio cwricwlwm sy’n dathlu diwylliannau o bob cwr o’r byd mewn ffordd ystyrlon. Mae arweinwyr yn sicrhau bod rhieni a’r gymuned ehangach yn gallu cyfrannu at y dysgu hwn. Mae staff yn darparu ystod o gyfleoedd i ddisgyblion o gefndiroedd amrywiol ddysgu am hanes a diwylliant lleol Cymru er mwyn eu helpu i ddatblygu ymdeimlad o berthyn i’w cymuned leol.