Darpariaeth lles gref
Mae’r Ystafell Enfys yn fan tawel lle mae grwpiau bach o ddisgyblion yn ymgymryd â gweithgareddau unigol. Mae’r ddarpariaeth les hon, sydd wedi’i seilio ar arfer gref sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn darparu cymorth hynod effeithiol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae cwricwlwm wedi’i deilwra o amgylch pob disgybl yn eu helpu i wneud cynnydd cryf. Mae staff medrus yn galluogi disgyblion i fynegi eu hunain, rheoli eu hemosiynau a rheoli eu hymddygiad trwy ystod o weithgareddau strwythuredig.