Defnyddio prosesau asesu yn fuddiol i lywio gwelliant ysgol.
Mae’r ysgol wedi datblygu dull cynhwysfawr a hynod effeithiol o asesu. Mae arweinwyr yn cynnal cyfarfodydd cynnydd disgyblion bob tymor. Bob blwyddyn, maent yn casglu’r wybodaeth a geir o’r cyfarfodydd hyn i greu proffil cynnydd ar gyfer yr ysgol gyfan ac i nodi tueddiadau. Mae hyn yn llywio dealltwriaeth gadarn o gynnydd disgyblion ar lefel unigolion, grwpiau a’r ysgol gyfan. Mae athrawon yn defnyddio’r wybodaeth hon i gynllunio ar gyfer cynnydd disgyblion, ac mae arweinwyr yn ei defnyddio’n effeithiol i lywio blaenoriaethau gwella.<br />