Cymorth effeithiol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae gan yr ysgol ddarpariaeth gref i ddiwallu anghenion dysgu a lles disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae gweithdrefnau a phrosesau’r ysgol ar gyfer cefnogi’r disgyblion hyn yn gadarn, ac mae’r cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY) yn darparu arweinyddiaeth hynod effeithiol sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at ddiwylliant cynhwysol yr ysgol. O ganlyniad, mae staff yn elwa ar ddysgu proffesiynol pwrpasol, ac mae disgyblion ag ADY yn cael eu cefnogi’n effeithiol. Mae eu cynnydd yn cael ei fonitro’n ofalus, gan sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei haddasu’n brydlon lle bo angen. Mae perthnasoedd cryf a chadarnhaol â theuluoedd, staff a disgyblion yn sicrhau bod pawb yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau sy’n helpu pawb i ddeall cyflawniadau’r disgyblion a’u camau nesaf.