Darpariaeth hynod gynhwysol
Mae staff yn adnabod disgyblion a’u teuluoedd yn arbennig o dda. Mae eu dull agored a chefnogol o gyfathrebu yn meithrin perthnasoedd cryf sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth, sy’n helpu disgyblion i ymgartrefu’n gyflym a theuluoedd i deimlo’n gyfforddus wrth rannu pryderon neu ofyn am gyngor. Mae staff yn adeiladu ar wybodaeth a ddarperir gan rieni i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o anghenion disgyblion unigol ac i gynllunio eu camau nesaf o gyfnod cynnar. Mae arweinwyr yn cydweithio’n rhagweithiol â rhieni, asiantaethau allanol a’r awdurdod lleol i ddarparu cymorth hynod effeithiol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. Ar draws yr ysgol, mae staff yn monitro effeithiolrwydd y ddarpariaeth, gan ddefnyddio arsylwi gofalus, asesu parhaus a chwestiynu medrus i deilwra’r dysgu’n ymatebol i anghenion unigol. O ganlyniad, mae bron pob disgybl yn cael ei herio’n briodol, yn mwynhau dysgu ac yn gwneud cynnydd cryf o ran ei les ac wrth ddatblygu ei fedrau.