Ieithoedd Rhyngwladol (Iaith Arwyddion Prydain – BSL) a Chynhwysiant
Mae’r ysgol yn dangos arferion hynod effeithiol wrth addysgu Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Mae hyn yn chwarae rhan allweddol wrth greu amgylchedd cynhwysol lle mae pob disgybl ac oedolyn, gan gynnwys y rhai sydd â nam ar eu clyw, yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi. Mae BSL wedi’i hintegreiddio’n ddi-dor i wersi, gydag oedolion a disgyblion yn ei defnyddio’n rheolaidd ac yn effeithiol i gyfathrebu. Mae’r arfer hwn yn ymestyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, gyda BSL yn cael ei defnyddio yn ystod cyngherddau, amseroedd egwyl ac wrth groesawu ymwelwyr, gan feithrin diwylliant cynhwysol ymhellach. Mae defnyddio iaith arwyddion yn aml ar draws pob agwedd ar fywyd yr ysgol yn helpu i leihau rhwystrau rhag cyfathrebu. Mae rhieni a’r gymuned ehangach yn hyrwyddo ac yn gwerthfawrogi BSL yn weithredol, gyda gweithdai a digwyddiadau rheolaidd sy’n annog cyfranogiad ac yn codi ymwybyddiaeth o’i phwysigrwydd wrth feithrin amgylchedd cynhwysol.