Hyrwyddo diwylliant cryf o les mewn ysgol feithringar
Ar draws yr ysgol, mae athrawon a staff cymorth yn cydweithio’n effeithiol i ddarparu amgylchedd dysgu cefnogol a phwrpasol. Maent wedi creu mannau tawel dan do sy’n galluogi disgyblion i deimlo’n ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u meithrin. Mae disgyblion yn defnyddio’r mannau hyn yn annibynnol pan fydd angen iddynt reoli eu hymddygiad a pharatoi eu hunain i ddysgu. Pan fydd angen cymorth ar ddisgyblion, mae staff yn defnyddio strategaethau cyson a chefnogol yn fedrus sy’n eu helpu i ymgysylltu’n gadarnhaol.