Ruthin School - Estyn
Ysgolion annibynnol - Cyngor Sir Ddinbych

Ruthin School

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

Ciplun

Cynllunio cyfleoedd dysgu effeithiol i baratoi disgyblion ar gyfer bywyd fel oedolion

Mae’r ysgol yn darparu cymorth hynod effeithiol ar gyfer datblygu cymeriad disgyblion yn eang trwy ystod o raglenni strwythuredig a chyfleoedd dysgu. Mae rhaglen addysg bersonol a chymdeithasol sydd wedi’i strwythuro’n dda ar waith ar draws yr ysgol, ynghyd â rhaglen fugeiliol sy’n canolbwyntio ar ddatblygu cymeriad ac sy’n cael ei hadnabod wrth yr acronym ‘POLESTAR’ (Cyfranogiad, Cynnig, Arweinyddiaeth, Amgylchedd, Gwasanaeth, Technoleg, Parch). Gall disgyblion ddefnyddio’r strwythur hwn i fyfyrio ar eu profiadau a meddwl yn ddwys am eu datblygiad personol eu hunain. O ganlyniad, mae disgyblion yn datblygu hyder a hunanymwybyddiaeth dros amser, sy’n eu galluogi i ymgymryd â rolau arwain a chymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau sy’n ehangu eu gorwelion. Mae’r ysgol yn cynnig llawer o gyfleoedd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau ac ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth. Er enghraifft, mae disgyblion yn cymryd rhan mewn gwobr gelf, ac mae disgyblion yn y chweched dosbarth yn cael cyfleoedd i ymgymryd â phrofiad gwaith a gwrando ar siaradwyr gwadd arbenigol. Mae’r rhaglen o gyrsiau dewisol, sydd hefyd wedi’i chynllunio gan yr ysgol, yn cynnig ystod o gyrsiau o fewn amserlen yr ysgol sy’n datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a medrau disgyblion mewn amrywiaeth o feysydd. Er enghraifft, gall disgyblion ymuno â’r cwrs ‘Cyflwyniad i Economeg’, dewis dysgu medrau coginio sylfaenol, dysgu sut i ysgrifennu CV a defnyddio taenlenni ar lefel sylfaenol, neu astudio modelu mathemategol neu ffisioleg. Mae’r rhaglenni hyn yn ategu rhaglen addysg gyrfaoedd yr ysgol, a gyflwynir gan diwtoriaid dosbarth ar draws yr ysgol. O ganlyniad, mae’r ysgol yn darparu dull cadarnhaol ac eang o ymdrin ag addysg gyrfaoedd, paratoi ar gyfer y brifysgol a pharatoi ar gyfer bywyd fel oedolion.

Manylion

Cyfeiriad

Mold Road
Ruthin
Denbighshire
LL15 1EE