Redhill Preparatory School - Estyn
Ysgolion annibynnol - Cyngor Sir Penfro

Redhill Preparatory School

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

1 of 2

Cipluniau

Cwricwlwm diddorol sydd wedi’i wreiddio yn yr amgylchedd

Mae dull ‘addysg ar gyfer bywyd’ Redhill yn cwmpasu pum maes dysgu, sef y meddwl, y corff, y galon, y dyfodol a’r Ddaear. Bob tymor, mae dosbarthiadau’n ymateb i gwestiynau ymholi fel ‘Pa fwydydd a gawn o fyd natur?’ (Dosbarth Derbyn) neu ‘A yw’n werth achub Antarctica?’ (Blwyddyn 6). Wrth i ddisgyblion ymateb i’r cwestiynau ymholi hyn, maent yn cael cymorth gan eu ‘partneriaid dysgu’. Er enghraifft, gallai taid neu nain ymuno â’r dosbarth i hau hadau a gofalu am ardd yr ysgol, neu gallai arbenigwr o ganolfan gwaith maes leol siarad â disgyblion Blwyddyn 6 am ddaeareg a bywyd gwyllt Antarctica. Anogir disgyblion i ystyried cynaliadwyedd o ganlyniad i’w hymholiadau. Mae enghreifftiau’n cynnwys meddwl am bwysigrwydd cynhwysion lleol neu edrych ar faint o ynni a ddefnyddir yn eu cartrefi ac ystyried sut y gellid lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Mae’r gwaith y mae disgyblion yn ei gynhyrchu o ganlyniad i’w hymholiadau ar sawl ffurf, gan gynnwys ffilmiau, cardiau diolch a anfonir at ffermwyr lleol, a dramâu neu storïau am anifeiliaid a mudo a berfformir i ddisgyblion iau. O ganlyniad i’r dull sy’n seiliedig ar ymholi, mae gan ddisgyblion ddealltwriaeth ddofn o’r materion sy’n ymwneud â’r cwestiwn allweddol a ofynnir. Maent yn cymhwyso ystod o fedrau mewn cyd-destun dilys ac yn ystyried sut y gallai’r hyn y maent wedi’i ddysgu ddylanwadu arnynt hwy neu ar eu teuluoedd.

Manylion

Cyfeiriad

The Garth
St Davids Road
Haverfordwest
Haverfordwest
SA61 2UR