Mae llyfrgell ysgol a arweinir gan ddisgyblion yn hyrwyddo diwylliant o ddarllen.
Fel rhan o’u hymrwymiad i hyrwyddo darllen er pleser, mae arweinwyr a staff wedi datblygu llyfrgell ysgol groesawgar y mae disgyblion a theuluoedd yn ei defnyddio’n rheolaidd. Ar ôl cael hyfforddiant, mae disgyblion o grŵp llyfrgellwyr Senedd yr ysgol yn rheoli system lyfrgell ar-lein ac yn helpu i redeg y llyfrgell. Mae disgyblion yn ymweld â’r llyfrgell amser cinio ac ar ôl ysgol i newid llyfrau, archwilio testunau newydd neu fwynhau’r amgylchedd tawel. Mae disgyblion sy’n defnyddio’r llyfrgell yn ymgysylltu’n frwdfrydig â llyfrau ac yn mwynhau’r profiad o ddefnyddio’r llyfrgell. Mae’r diwylliant darllen cadarnhaol hwn yn dechrau gwella hyder a chynnydd disgyblion mewn darllen.