Diwallu anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Mae’r ysgol wedi gwneud defnydd da o gyfleoedd dysgu proffesiynol i gefnogi diwygio’r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae staff wedi ymgymryd ag ymchwil a gwaith datblygu i fireinio eu dull o ddiwallu anghenion unigol disgyblion yn gadarn. Mae staff yn cyfathrebu’n effeithiol â rhieni ynghylch cynnydd eu plentyn. Mae hyn, ynghyd â gwaith partneriaeth llwyddiannus ag asiantaethau allanol, yn sicrhau bod yr ysgol yn nodi anghenion disgyblion yn brydlon a’u bod yn cael cymorth unigol effeithiol.