Darpariaeth dysgu cynnar ar gyfer disgyblion iau
Mae’r ddarpariaeth ar gyfer y disgyblion ieuengaf yn rhagorol ac yn sicrhau bod disgyblion yn datblygu sylfaen gadarn ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Mae athrawon yn gwneud defnydd da o gyfleoedd dysgu proffesiynol i ddatblygu eu dealltwriaeth ymhellach o sut mae plant ifanc yn dysgu. Maent yn defnyddio’r wybodaeth hon yn dda i ddarparu amgylcheddau dysgu sy’n annog disgyblion i fod yn chwilfrydig ac i archwilio’r byd o’u cwmpas. Mae staff yn deall pwysigrwydd arsylwi ac yn defnyddio’r canfyddiadau’n bwrpasol i gynllunio gweithgareddau priodol sy’n ymestyn dysgu disgyblion ymhellach. Mae addasiadau diweddar i’r ffordd y caiff rhifedd ei addysgu wedi arwain at ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach ymhlith disgyblion o’r cysyniad o rif.