Penpych Community Primary School - Estyn
Cynradd - Cyngor Bwrdestref Sirol Rhondda Cynon Taf

Penpych Community Primary School

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

1 of 2

Cipluniau

Datblygu medrau ysgrifennu disgyblion

Mae bron pob disgybl yn gwneud cynnydd sylweddol wrth ddatblygu eu medrau ysgrifennu erbyn iddynt adael yr ysgol. Mae athrawon yn cynllunio cyfleoedd arloesol i ddisgyblion gymhwyso eu medrau yn gynyddol yn eu gwaith ar draws y cwricwlwm. Mae disgyblion iau yn datblygu eu medrau ysgrifennu cynnar yn dda i gyfleu eu meddyliau a’u syniadau. Mae ysgrifennu disgyblion hŷn yn ddychmygus. Maent yn ysgrifennu’n gymwys at ystod o ddibenion ar draws y cwricwlwm. Mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn ysgrifennu’n estynedig, gan olygu ac ymestyn eu hysgrifennu i wneud gwelliannau. Maent yn strwythuro eu brawddegau ac yn dewis geirfa amrywiol i gyfoethogi eu gwaith, gan gynhyrchu testunau diddorol sy’n dal sylw’r darllenwyr.

Manylion

Cyfeiriad

Blaenrhondda Road
Ty Newydd
Treherbert
RCT
CF42 5SD