Cwricwlwm dilys sy’n adeiladu’n bwrpasol ar fedrau a dysgu blaenorol disgyblion.
Dros amser, mae arweinwyr a staff wedi datblygu cwricwlwm pwrpasol sydd ag ymholi gan ddisgyblion wrth ei wraidd. Mae’r cwricwlwm yn darparu profiadau dysgu diddorol ac ysgogol mewn cyd-destunau dilys sy’n adeiladu’n raddol ar fedrau a dysgu blaenorol disgyblion. Mae arweinwyr yn parhau i ganolbwyntio’n glir ar sefydlu dulliau addysgu cyson ac effeithiol sy’n cyd-fynd yn agos â chynllun y cwricwlwm. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn datblygu dealltwriaeth gyffredin a chydlynol o’u dysgu wrth iddynt symud drwy’r ysgol. Maent yn siarad yn hyderus am eu gwaith, yn myfyrio’n ystyriol ar eu cynnydd ac yn deall eu camau nesaf yn glir.