Pencoed Comprehensive School - Estyn
Uwchradd - Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-Bont ar Ogwr

Pencoed Comprehensive School

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

1 of 2

Cipluniau

Gwella addysgu trwy ddysgu proffesiynol

Mae’r ysgol yn datblygu diwylliant bywiog o ddysgu proffesiynol. Mae pwyslais cryf ar ddatblygu addysgu ar sail tystiolaeth uniongyrchol o gryfderau a meysydd i’w gwella mewn arferion ar draws yr ysgol. Mae amrywiaeth o ddulliau cyflenwol, gan gynnwys hyfforddi, arferion sy’n seiliedig ar ymchwil, cynllunio a myfyrio ar y cyd, gweithdai dan arweiniad athrawon a digwyddiadau ysgol gyfan, yn cefnogi’r ysgol yn dda yn ei huchelgais i gryfhau addysgeg. Mae barn disgyblion yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith hwn. Mae’r ‘Arloeswyr Addysgeg’, sef grŵp o arweinwyr sy’n ddisgyblion, wedi cael hyfforddiant i ddatblygu ystod werthfawr o fedrau i weithio gydag arweinwyr i lywio gwelliannau mewn dulliau addysgu a dysgu.

Manylion

Cyfeiriad

Coychurch Road
Pencoed
CF35 5LZ