Tîm cymorth i ddisgyblion
Mae lles disgyblion Ysgol Park Lane yn cael ei gefnogi’n gryf gan Dîm Cymorth i Ddisgyblion (CiD) hynod effeithiol, sy’n gweithio’n agos gyda staff ac arweinwyr i ddarparu ymyriadau amserol sydd wedi’u teilwra i anghenion unigol. Mae’r ddarpariaeth gynlluniedig yn cynnwys therapïau fel hydrotherapi, cwnsela a therapi cerdd, ynghyd â sesiynau gwirio lles dyddiol sy’n hyrwyddo dull ysgol gyfan o gefnogi lles. Yn ogystal, mae’r Tîm Cymorth i Ddisgyblion yn darparu hyfforddiant i staff ac yn cydweithio â phartneriaid allanol, gan wella cysondeb y cymorth lles. Mae dull clir a strwythuredig yr ysgol o gefnogi ymddygiad cadarnhaol yn cael ei roi ar waith yn effeithiol gan bron pob aelod o staff, gan arwain at ymddygiad rhagorol ledled yr ysgol.