Palmerston Primary School - Estyn
Cynradd - Cyngor Bro Morgannwg

Palmerston Primary School

Estyn logo on a blue background

Cipluniau

Ciplun

Sylw arbennig: Ymgysylltu’n effeithiol â theuluoedd

Mae gan yr ysgol ethos teuluol a chymunedol hynod gefnogol sydd wedi’i sefydlu’n gadarn, sy’n rhan sylfaenol o’i gweledigaeth ac wrth wraidd ei gwaith. I gefnogi hyn, mae’r ysgol yn cydweithio’n effeithiol ag ystod eang o ddarparwyr allanol. Mae’r partneriaethau hyn yn helpu i feithrin perthnasoedd cryf â theuluoedd a datblygu dealltwriaeth rhieni a gofalwyr o ystod o bynciau pwysig, fel diogelwch ar y rhyngrwyd, llythrennedd ariannol a magu plant yn effeithiol. Yn ogystal, mae rôl gefnogol y swyddog ymgysylltu â theuluoedd yn darparu cyswllt gwerthfawr rhwng rhieni a gofalwyr a’r ysgol. Mae teuluoedd yn mynychu’r ysgol yn rheolaidd i gymryd rhan mewn gweithdai defnyddiol sy’n eu cefnogi i ddatblygu medrau bywyd ac yn eu galluogi i gefnogi dysgu eu plant. Mae gwaith yr ysgol yn y maes hwn yn gryfder nodedig.

Manylion

Cyfeiriad

Pen-y-Bryn
Cadoxton
Barry
Vale of Glamorgan
CF63 2XL