Ymgysylltu â’r Gymuned
Mae ymateb yr ysgol i anghenion y gymuned yn hynod effeithiol ac yn cael effaith gadarnhaol ar ymgysylltiad dysgwyr â’r ysgol. Mae staff yn cynnig nifer o weithgareddau gwerthfawr i ddisgyblion a rhieni sy’n canolbwyntio ar fedrau bywyd pwysig. Mae’r rhain yn cynnwys cyngor ar sut i reoli arian, coginio prydau iachus ar gyllideb a sesiynau sy’n galluogi rhieni i gefnogi datblygiad eu plentyn fel darllenydd. Mae’r ysgol hefyd yn darparu cyngor i’r rhai sy’n wynebu amgylchiadau heriol. Mae rhieni’n gwerthfawrogi’r cyfleoedd hyn ac yn teimlo eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar eu lles eu hunain a lles eu plant.