Datblygu disgyblion yn ddysgwyr meddylgar ac annibynnol sy’n gallu datrys problemau
Nodwedd nodedig o arferion yr ysgol yw’r ddarpariaeth hynod lwyddiannus i ddisgyblion ddatblygu eu medrau meddwl a datrys problemau mewn ffyrdd ystyrlon. Mae disgyblion o bob oed yn mynd i’r afael yn fedrus â gweithgareddau ysgogol sy’n hyrwyddo meddwl creadigol, yn annibynnol neu ar y cyd â’u ffrindiau. Mae bron pob disgybl yn ymateb yn dda i’r heriau hyn. Maent yn dangos dyfalbarhad wrth gwblhau eu tasgau ac yn dangos gwydnwch wrth roi cynnig ar wahanol ddulliau.