Comisiynu ysgol arbennig i ddarparu gwasanaeth allgymorth i ysgolion prif ffrwd i gynorthwyo disgyblion awtistig
Mae’r awdurdod lleol yn comisiynu staff arbenigol Ysgol Bryn Derw i ddarparu ystod eang o gymorth arbenigol o ansawdd uchel i ysgolion prif ffrwd, gan gynnwys canolfannau adnoddau dysgu. Mae arweinwyr ysgolion yn gadarnhaol iawn am y cymorth gwerthfawr hwn, sy’n meithrin gallu ysgolion prif ffrwd i gynorthwyo disgyblion awtistig yn dda. Mae’r ystod eang o gymorth allgymorth o ansawdd uchel yn gwneud cyfraniad pwysig at wella’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion awtistig ledled Casnewydd. Mae’r cymorth hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd. Mae’r gwasanaeth yn cael effaith gadarnhaol ar wella’r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion awtistig mewn ysgolion prif ffrwd a dosbarthiadau arbenigol ledled y ddinas.