Cymorth creadigol i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
Mae’r awdurdod lleol wedi bod yn greadigol wrth nodi ffyrdd o gynorthwyo plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae swyddogion yn blaenoriaethu adnabod ADY yn gynnar yn dda. Mae grŵp chwarae ADY Caterpillars yn enghraifft o’r ymrwymiad hwn, gan ddarparu dull amlasiantaethol o roi cymorth cynnar. Mae’r ddarpariaeth hon yn galluogi swyddogion i adnabod plant cyn oed ysgol sydd angen cymorth ac yn cynnig arweiniad gwerthfawr i deuluoedd. Mae trefniadau pontio sydd wedi’u cynllunio’n ofalus yn cynorthwyo’r plant hyn ymhellach wrth iddynt symud i addysg ffurfiol. Mae grŵp llywio ADY cyfrwng Cymraeg penodol yr awdurdod, Datblygu Addysg Cynhwysol Cymraeg, yn sicrhau bod dysgwyr yn cael mynediad effeithiol a theg at gymorth. Mae'r grŵp amlasiantaethol hwn yn cynnwys seicolegwyr addysg, swyddogion gwella, athrawon arbenigol ac arweinwyr ysgol. Mae'r grŵp yn datblygu ac yn rhannu ystod o adnoddau dwyieithog gwerthfawr ac yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol effeithiol. Mae hyn hefyd yn cefnogi nodau Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yr awdurdod i hyrwyddo'r Gymraeg.