Dulliau cyson ac effeithiol o reoli ymddygiad heriol
Mae dull yr ysgol o gefnogi disgyblion sy’n dangos ymddygiad heriol yn nodwedd nodedig o’i gwaith. Mae bron pob aelod o staff wedi cael hyfforddiant da, ac mae ganddynt wybodaeth a medrau hynod ddatblygedig i roi dulliau cyson a sefydledig ar waith sy’n nodi disgyblion sydd mewn perygl o golli rheolaeth ar eu hemosiynau ac, yn y rhan fwyaf o achosion, yn atal sefyllfaoedd rhag gwaethygu. Pan fydd disgyblion yn dangos ymddygiad heriol, mae staff yn defnyddio dulliau unigol sydd yn hynod lwyddiannus wrth helpu disgyblion i reoli eu hemosiynau a thawelu’n gyflym. Mae hyn yn creu amgylchedd hynod gynhwysol lle gall pob disgybl gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol, lle nad amherir ar ddysgu yn aml a lle mae eithrio disgyblion o weithgareddau’r ysgol yn digwydd yn eithriadol o anaml.