Darpariaeth effeithiol ar gyfer disgyblion ag anghenion gwybyddol, cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol
Mae darpariaeth hynod effeithiol yr ysgol ar gyfer disgyblion ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol yn cynnwys cydweithio effeithiol â rhieni ac asiantaethau allanol, gan ddarparu cymorth unigol wedi’i deilwra i anghenion disgyblion. Mae’r ddarpariaeth ar gael i unrhyw ddisgybl yn ystod y dydd, gan eu helpu i reoli eu hunain nes eu bod yn barod i ddysgu eto. Mae’r dull hwn yn helpu disgyblion i gyfathrebu eu hanghenion, rheoli eu hemosiynau ac ymgysylltu’n gadarnhaol â’u dysgu. Mae bron bob disgybl yn gwneud cynnydd cryf yn yr amgylchedd diogel a gofalgar hwn.