Codi dyheadau disgyblion ynghylch byd gwaith
Mae disgyblion hŷn yn cael cyfleoedd gwerthfawr i wrando ar weithwyr proffesiynol fel diffoddwyr tân, aelodau o’r môr-filwyr, milfeddygon ac arbenigwyr deallusrwydd artiffisial yn siarad am eu galwedigaethau. Mae hyn yn eu helpu i ddatblygu dealltwriaeth gadarn o opsiynau gyrfa yn y dyfodol a byd gwaith. Mae’r profiadau hyn, gan gynnwys gweithdai gyda gwyddonwyr a chyfleoedd i ddod i gysylltiad â thechnolegau fel adnabod wynebau, yn ysbrydoli disgyblion ac yn codi eu dyheadau ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn golygu eu bod yn meithrin dealltwriaeth glir o’r cysylltiad rhwng addysg a’u llwyddiant yn y dyfodol, ac yn eu cymell i feddwl am y camau y mae angen iddynt eu cymryd i gyflawni eu nodau.