Cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac yn datblygu dyheadau, empathi ac agweddau cadarnhaol at ddysgu
Ar draws yr ysgol, mae staff yn darparu profiadau dysgu diddorol sydd wedi’u cynllunio’n dda ac sy’n defnyddio adnoddau lleol, ymwelwyr a’r gymuned i roi ystyr a diben i themâu. Mae hyn yn ysbrydoli ac yn cymell disgyblion, sy’n dangos brwdfrydedd, gwydnwch a dyfalbarhad cryf yn eu dysgu. Mae staff yn manteisio ar gymuned leol yr ysgol i greu cwricwlwm sy’n hyrwyddo empathi, parch a dealltwriaeth o fywydau pobl eraill, yn y gorffennol a’r presennol, yn llwyddiannus. Mae’r cwricwlwm hefyd yn helpu disgyblion i ddatblygu dealltwriaeth ysbrydol gadarn a meithrin ymwybyddiaeth gymdeithasol trwy gyfleoedd dysgu amserol a pherthnasol mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn.