Dull ysgol gymunedol o gefnogi teuluoedd a disgyblion
Mae tîm lles yr ysgol yn gweithio’n effeithiol i gefnogi disgyblion, teuluoedd a’r gymuned er mwyn lleihau effaith heriau economaidd-gymdeithasol. Mae ystafell gymunedol yr ysgol ar gyfer teuluoedd yn galluogi rhieni i gyfarfod yn rheolaidd mewn amgylchedd clyd, diogel a chefnogol. Mae’r Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yn arwain rhaglenni dysgu i deuluoedd, gan gynnwys darparu gwybodaeth i rieni am sut i gefnogi medrau llythrennedd eu plant a sut i ddatblygu eu medrau eu hunain o ran rheoli arian a chyllidebu. Mae’r Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd yn helpu arweinwyr i fynd i’r afael yn llwyddiannus ag unrhyw bresenoldeb gwael.